Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia

Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia
Enghraifft o'r canlynolsefydliad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegmudiad Catalwnaidd dros annibyniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2012 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadArlywydd Assemblea Nacional Catalana Edit this on Wikidata
SylfaenyddPere Pugès, Miquel Strubell i Trueta, Miquel Sellarès i Perelló, Enric Ainsa i Puig Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolSpanish association Edit this on Wikidata
PencadlysBarcelona Edit this on Wikidata
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://assemblea.cat/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwrthydystiad cyhoeddus o 8,000 o ganhwyllau - a drefnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol

Mudiad cenedlaethol yng Nghatalwnia ydy Assemblea Nacional Catalana (talfyriad: ANC; Cymraeg: Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia); roedd ganddo dros 80,000 o aelodau (40,000 ohonynt yn talu) yn 2015.[1] Rhwng ei ffurfio yn 2011 a Mai 2015 ei Lywydd oedd Carmen Forcadell cyn trosglwyddo'r awenau i Jordi Sànchez. Mae'r ANC yn diffinio'i hun fel mudiad democrataidd, poblogaidd ac unol.[2]

Un o'i ymgyrchoedd cyntaf oedd gwrthdystiad enfawr ar 11 Medi 2012 yn Barcelona, pan ddaeth 1.5 miliwn o bobl at ei gilydd i alw am annibyniaeth i Gatalwnia. Dyma'r brotest fwyaf a welwyd yng Nghatalwnia (hyd 2015). Ar 8 Mehefin y flwyddyn dilynol ail-etholwyd Carme Forcadell yn Llywydd. Rhennir gwaith y mudiad rhwng deg siaptr neu ranbarth, er mwyn ysgogi gweithgareddau lleol.

Rhai gwrthdystiadau a drefnwyd gan yr ANC
  1. https://assemblea.cat; adalwyd Awst 2015
  2. http://www.ccma.cat; adalwyd Awst 2015

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in